Julie Payette | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1963 Montréal |
Man preswyl | Rideau Hall |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gofodwr, peiriannydd, gwleidydd |
Swydd | Llywodraethwr Cyffredinol Canada |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Swyddog Urdd Canada, Knight of the National Order of Quebec, Gwobr am Wasanaeth Eithriadol i NASA, Medal Gofodwyr NASA, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Honorary doctor of the University of Ottawa, Cymrodoriaeth Cymdeithas Frenhinol Canada, doctor honoris causa Prifysgol Concordia, honorary doctorate from the University of Alberta, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, Cydymaith o Urdd Canada |
llofnod | |
Peiriannydd, gwyddonydd a chyn-gofodwr Canadaidd yw Julie Payette CC CMM COM CQ CD (Ffrangeg: ʒyli pajɛt]; ganwyd 20 Hydref 1963) Gwasanaethodd hi fel Llywodraethwr Cyffredinol Canada rhwng 2017 a 2021, y 29ain Llywodraethwr ers Cydffederasiwn Canada.[1][2] [3]
Cafodd Payette ei geni ym Montréal. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Mont-Saint-Louis a Collège Regina Assumpta. [4] [5] Ym 1982 cwblhaodd ddiploma Bagloriaeth Ryngwladol yng Ngholeg y Byd Unedig yr Iwerydd yn Sain Dunwyd, Ne Cymru.[6]
Mae gynni hi raddau peirianneg o Brifysgol McGill a Phrifysgol Toronto. Bu’n gweithio fel gwyddonydd ymchwil cyn ymuno ag Asiantaeth Ofod Canada (CSA). Daeth hi aelod o Gorfflu Gofodwyr Canada ym 1992. Cwblhaodd ddwy hediad gofod.
Ym mis Gorffennaf 2013, enwyd Payette yn brif swyddog gweithredu Canolfan Wyddoniaeth Montreal. Daliodd hefyd nifer o benodiadau bwrdd, gan gynnwys Banc Cenedlaethol Canada . [7] Ar 13 Gorffennaf 2017 cyhoeddodd y Prif Weinidog Justin Trudeau fod y Frenhines Elizabeth II wedi cymeradwyo penodi Payette yn llywodraethwr cyffredinol nesaf Canada.[1][2][8]
Ymddiswyddodd Payette ar 21 Ionawr 2021, ar ôl iddi gael ei chyhuddo o fwlio. [9][10]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search